P-03-260 Yr ymgyrch dros ffurfafen dywyll
Geiriad y ddeiseb
Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cynulliad Cymru i fynd i’r afael â phroblem gynyddol llygredd golau yng Nghymru. Mae llygredd golau’n deillio o ganlyniad i wastraffu golau, sy’n golygu gwastraffu ynni. Mae’r ymgyrch dros ffurfafen dywyll yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cynulliad Cymru i roi canllawiau clir i awdurdodau lleol Cymru ynghylch llygredd golau. Dylai canllawiau o’r fath geisio lleihau llygredd golau drwy bennu cyfyngiadau clir ar gyfer goleuo ym mhob cais cynllunio, a thrwy roi dyletswydd ar awdurdodau lleol i leihau faint o olau a wastreffir yn eu hardal.
Linc i’r ddeiseb: http://www.cynulliadcymru.org/gethome/e-petitions-old/admissible-pet/p-03-260.htm
Cynigwyd gan: Yr Ymgyrch dros Ffurfafen Dywyll
Nifer y llofnodion: 1,643
Y wybodaeth ddiweddaraf: Cafwyd gohebiaeth gan y Gweinidog dros yr Amgylchhedd a Datblygu Cynaliadwy a’r Gymdeithas Frenhinol er Atal Damweiniau